Clir fel mwd…

Mae ein hadroddiad diweddaraf yn edrych ar Ddiogelwch Cymunedol yng Nghymru. Mae Nick Selwyn, awdur yr adroddiad, yn edrych ar yr adroddiad ac yn ceisio datod gwe gymhleth diogelwch cymunedol yng Nghymru.

Mae diogelwch cymunedol yn derm yr ydym ni i gyd yn ei ddefnyddio’n rheolaidd ac mae’n aml yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth – yn aml y brif flaenoriaeth – ar gyfer gweithredu gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru. Edrychwch ar ganlyniadau arolygon barn y cyhoedd ac fe welwch fod cadw pobl yn saff a mynd i’r afael â throseddu yn fynych yn cael eu nodi gan ddinasyddion Cymru fel eu blaenoriaethau mawr i gyrff cyhoeddus ymdrin â hwy.

Fodd bynnag, gofynnwch i rywun naill ai diffinio’r hyn y mae diogelwch cymunedol yn ei olygu, egluro pwy sy’n gyfrifol am ymdrin â diogelwch cymunedol a sut y mae diogelwch cymunedol yn cael ei reoli ar hyn o bryd ac ni chewch ddau ateb yr un fath.

Ar ei fwyaf sylfaenol, mae a wnelo diogelwch cymunedol â theimlad pobl o ddiogelwch personol a’u teimlad o ddiogelwch mewn perthynas â’r lle y maent yn byw, yn gweithio ac yn treulio eu hamser hamdden. Serch hynny, oherwydd bod diogelwch cymunedol yn cyffwrdd â chymaint o wahanol agweddau ar fywyd, mae’n anodd yn aml diffinio beth yn union ydyw, pa wasanaethau sy’n cyfrannu at ei gyflawni ac, yn y pen draw, pwy sy’n gyfrifol am fynd i’r afael ag ef.

Chwilota am ateb

Meddyliwch am yr ystod o wasanaethau cyhoeddus gwahanol sy’n cyfrannu at ddiogelwch cymunedol. Yn gyntaf, dyna’r Heddlu, sydd â llawer o swyddogaethau amrywiol a phwysig i’n cadw ni i gyd yn ddiogel, o ymateb i alwadau gan y cyhoedd ar y naill law i blismona cymdogaeth a delio â digwyddiadau traffig ar y llall. Wedyn, mae yna wasanaethau Tân ac Achub a chyrff iechyd, megis Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, y mae eu prif waith yn ymwneud â chadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi ac ymdrin ag achosion brys sy’n fygythiad i fywyd.

Ac wedyn, mae’r llu o wasanaethau a ddarperir gan gynghorau lleol, sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at wella diogelwch cymunedol. Mae’r rhain yn cynnwys meysydd amrywiol megis delio â chwynion ynghylch cymdogion trafferthus; cadw strydoedd a mannau cymunedol yn lân ac yn rhydd o sbwriel a thipio anghyfreithlon; timau cynllunio ar gyfer argyfyngau, sy’n cyd-drefnu ac yn sefydlu cynlluniau ar gyfer llifogydd ac eira trwm; swyddogion trwyddedu sy’n cynorthwyo i gynnal trefn gyhoeddus a goruchwylio gwaith busnesau bwyd; a gwasanaethau cymdeithasol ac addysg sy’n gwneud llawer i ddiogelu a sicrhau lles yr aelodau o’n cymdeithas sy’n agored i niwed. Nid yw’r rhain ond rhai o’r gwahanol wasanaethau y mae cynghorau’n eu darparu sy’n cyfrannu at ddiogelwch cymunedol.

Wedi cymysgu?

Dydy hynny ddim yn syndod. Mae mor glir â mwd!

Yn 2015-16 fe wnaethom gynnal archwiliad i edrych ar waith cyrff cenedlaethol, rhanbarthol a lleol allweddol sydd â chyfrifoldebau dros reoli diogelwch cymunedol yng Nghymru – Llywodraeth Cymru, tîm Cymru y Swyddfa Gartref, Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd a chynghorau lleol. Canfu ein hadolygiad, a gyhoeddwyd ar y 18fed o Hydref, er gwaethaf ymdrechion gorau’r gwahanol gyrff hyn i fynd i’r afael â diogelwch cymunedol, fod y trefniadau presennol ymhell o fod yn berffaith.

community-safety-2016-twitter3-cym

Mae cyfrifoldebau polisi am ddiogelwch cymunedol wedi eu rhannu rhwng Llywodraeth y DU – sy’n atebol am faterion plismona – a Llywodraeth Cymru sy’n atebol am y rhan fwyaf o wasanaethau awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ogystal â’r awdurdodau Tân ac Achub a’r Byrddau Iechyd. Mae dulliau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ymdrin â diogelwch cymunedol, fodd bynnag, yn datblygu mewn ffyrdd gwahanol ac nid ydynt bob amser wedi eu cydgysylltu.

Caiff plismona lleol yng Nghymru ei gyflawni drwy bedwar heddlu a phedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd, sy’n cymryd eu harwain gan y Swyddfa Gartref. Er mwyn bod yn wirioneddol effeithiol, mae angen i’r Heddlu gydweithio gyda’r awdurdodau lleol oherwydd mai llywodraeth leol sy’n gyfrifol am reoli’r partneriaethau diogelwch cymunedol lleol. Ar lefel awdurdod lleol y mae partneriaethau diogelwch cymunedol yn gweithredu, nid ar lefel yr heddlu. Caiff y canllawiau ar gyfer partneriaethau eu cynhyrchu gan y Swyddfa Gartref ond oddi wrth Lywodraeth Cymru y daw’r rhan fwyaf o arian cyhoeddus i awdurdodau lleol.

Canfuom hefyd fod yna fyrdd o gynlluniau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ar gyfer diogelwch cymunedol yng Nghymru, ond nid yw’r rhain wedi eu halinio’n gyson er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau a chynyddu’r effaith. Nid yw rhai cynlluniau diogelwch cymunedol yn seiliedig ar wybodaeth o ansawdd da ac nid ydynt wedi eu diweddaru i adlewyrchu patrymau a thueddiadau newidiol mewn diogelwch cymunedol, tra mae rhai eraill yn parhau’n rhy uchelgeisiol ac amhosibl eu cyflawni. Dim ond 18 y cant o’r dinasyddion, a atebodd ein harolwg cyhoeddus, ddywedodd eu bod yn teimlo bod cynlluniau lleol yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r materion diogelwch cymunedol pwysicaf.

community-safety-2016-twitter2-cym

Mewn gwirionedd – wrth gymryd chwyddiant i ystyriaeth – mae’r gwariant ar blismona a gwaith awdurdodau lleol yn rheoli ac yn cyd-drefnu diogelwch cymunedol wedi gostwng. Mae swm yr arian o grantiau, y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gynorthwyo cyrff cyhoeddus i fynd i’r afael â diogelwch cymunedol, yn cynyddu ond mae cymhlethdodau’r gyfundrefn gyllido gyffredinol ar gyfer diogelwch cymunedol – y Swyddfa Gartref, Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd a grantiau Llywodraeth Cymru – yn rhy fyr-dymor a chymhleth ac mae hyn yn lleihau’r cyfleoedd i sicrhau gwell gwerth am arian.

Llusgo’r cyfan allan o’r mwd

Mae barnu sut y mae sefydliadau yn gwella diogelwch cymunedol yn anodd. Does yna ddim dangosyddion statudol na mesurau ar gyfer diogelwch cymunedol ac mae perfformiad wedi ei seilio’n bennaf ar gofnodion yr Heddlu a chanfyddiadau arolygon. Er bod y rhain yn awgrymu bod troseddau yn awr yn dechrau cynyddu, ar ôl cyfnod hir o ostyngiad yn y troseddau yr adroddir amdanynt, yn hanesyddol nid yw data troseddu wedi bod yn ddibynadwy. At hynny, mae dinasyddion yn teimlo’n llai diogel nag yr oeddent y llynedd a 10 y cant yn unig sy’n hyderus bod y rheiny sy’n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol yn gwneud gwaith da.

Mewn ychydig eiriau, dengys ein canfyddiadau fod angen i’r holl gyrff cyhoeddus ar bob lefel, sydd â chyfrifoldeb am ddiogelwch cymunedol, wneud llawer mwy os ydynt i gael yr effaith fwyaf cadarnhaol sy’n bosibl iddynt. Gwaetha’r modd, er yr ymrwymiad i wella trefniadau partneriaeth – mae ein hadolygiad yn tynnu sylw at bedwar ar ddeg o astudiaethau achos arfer da o bob cwr o Gymru sy’n dangos sut y mae sefydliadau gwahanol yn mynd i’r afael â’r her o ddelio â diogelwch cymunedol – mae llawer ar ôl i’w wneud. Rydym yn gwneud nifer o argymhellion sydd wedi eu hanelu at Lywodraeth Cymru, Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, awdurdodau lleol ac eraill sydd â rhan mewn diogelwch cymunedol. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar gydweithredu yn fwy effeithiol, gan alinio gweithgareddau a chyllidebau er mwyn sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n ddoeth i gael yr effaith fwyaf posibl a hynny ar y pethau sydd o bwys i ddinasyddion.

Wedyn, efallai y daw y mwd ychydig bach yn gliriach i ni i gyd …

Ynglŷn â’r awdur

Nick SelwynMae Nick Selwyn yn Rheolwr Llywodraeth Leol yn Swyddfa Archwilio Cymru, gyda chyfrifoldebau am ein rhaglen o astudiaethau Cymru-gyfan. Mae wedi gweithio i’r Swyddfa Archwilio am wyth mlynedd mewn amryw o wahanol swyddi ac mae’n Gymrawd i’r Sefydliad Siartredig Tai.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s